Jonah 3

Jona'n mynd i Ninefe

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Jona unwaith eto. 2“Dos i ddinas fawr Ninefe ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi'r neges dw i'n ei rhoi i ti.”

3Y tro yma dyma Jona'n gwneud hynny, fel roedd yr Arglwydd eisiau, a mynd yn syth i Ninefe. (Roedd Ninefe yn ddinas anferth. Roedd hi'n cymryd tri diwrnod i gerdded trwyddi!) 4Ar ôl cerdded trwyddi am ddiwrnod, dyma Jona'n cyhoeddi, “Mewn pedwar deg diwrnod bydd dinas Ninefe yn cael ei dinistrio!”

5Dyma bobl Ninefe yn credu neges Duw. A dyma nhw'n galw ar bawb i ymprydio (sef peidio bwyta) ac i wisgo sachliain – y bobl gyfoethog a'r tlawd.

6Pan glywodd brenin Ninefe am y peth, dyma fe hyd yn oed yn codi o'i orsedd, tynnu ei wisg frenhinol i ffwrdd, rhoi sachliain amdano, ac eistedd mewn lludw.
3:6 rhoi sachliain amdano ac eistedd mewn lludw roedd pobl yn gwneud hyn i ddangos eu bod nhw'n sori am wneud pethau drwg.
7Wedyn dyma fe'n gwneud datganiad cyhoeddus: “Dyma mae'r brenin a'i swyddogion yn ei orchymyn:

Does neb o bobl Ninefe i fwyta nac yfed (na'r anifeiliaid chwaith – gwartheg na defaid.)
Rhaid i bawb wisgo sachliain. A dylid hyd yn oed rhoi sachliain ar yr anifeiliaid.
Mae pawb i weddïo'n daer ar Dduw, a stopio gwneud drwg a bod mor greulon.
9Pwy a ŵyr? Falle y bydd Duw yn newid ei feddwl ac yn stopio bod mor ddig gyda ni, a bydd dim rhaid i ni farw.”

10Pan welodd Duw eu bod nhw wedi stopio gwneud y pethau drwg roedden nhw'n arfer eu gwneud, wnaeth e ddim eu cosbi nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud cyn hynny.

Copyright information for CYM